The NHS Alliance homepage

Esboniad newydd yn taflu goleuni ar rôl hanfodol y sector gwirfoddol yn system iechyd a gofal Cymru

4 August 2026

Conffederasiwn GIG Cymru a CGGC yn cyhoeddi esboniad ar y cyd sy'n archwilio pwysigrwydd rôl y sector gwirfoddol mewn iechyd a gofal yng Nghymru.

Mae Conffederasiwn GIG Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) wedi cyhoeddi esboniad ar y cyd newydd heddiw sy'n tynnu sylw at gyfraniad hanfodol sefydliadau gwirfoddol a gwirfoddolwyr i iechyd a gofal yng Nghymru. Mae'r cyhoeddiad yn cael ei lansio yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghymru 2026, a gynhelir yn Llantwd, gogledd Sir Benfro.

Mae Sut mae'r sector gwirfoddol a gwirfoddolwyr yn cefnogi'r system iechyd a gofal yng Nghymru yn archwilio maint ac effaith y sector, ac yn dangos sut mae sefydliadau a gwirfoddolwyr yn cefnogi pobl a chymunedau ledled Cymru.

Mae dros 47,600 o sefydliadau’r sector gwirfoddol yng Nghymru, a thros 10,000 yn darparu gwasanaethau ymyrraeth gynnar ac ataliol. Mae dros 15,000 o wirfoddolwyr yn cefnogi elusennau iechyd a gofal cofrestredig, ac yn cynnig cymorth ymarferol, cefnogaeth emosiynol a gwasanaethau cymunedol ochr yn ochr â darpariaeth y GIG a gofal cymdeithasol.

Mae'r esboniad yn tynnu sylw at gyfraniad y sector gwirfoddol at iechyd a gofal drwy wasanaethau a gomisiynir, mentrau llesiant cymunedol, gweithio mewn partneriaeth a mentrau sy'n ategu darpariaeth statudol. Mae hefyd yn arddangos enghreifftiau o bob cwr o Gymru, gan gynnwys rhoi cefnogaeth i wasanaethau mamolaeth, gofal canser, iechyd meddwl a rhaglenni o'r ysbyty i'r cartref.

Wrth i wasanaethau iechyd a gofal wynebu galw cynyddol, mae'r cyhoeddiad yn dadlau bod cysylltiadau agos y sector gwirfoddol â chymunedau, ei allu i gyrraedd grwpiau dan anfantais a'i ddull hyblyg o ddiwallu anghenion lleol yn ei wneud yn bartner hanfodol wrth ddarparu gofal mwy ataliol ac integredig sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae hefyd yn tanlinellu pwysigrwydd sicrhau bod sefydliadau gwirfoddol yn cael eu cefnogi drwy drefniadau ariannu cynaliadwy a'u bod yn cymryd rhan lawn yn y broses o gynllunio a darparu gwasanaethau.  

Gyda'i gilydd, mae Conffederasiwn GIG Cymru a CGGC yn galw am gydweithio parhaus rhwng y GIG, gofal cymdeithasol, llywodraeth leol a'r sector gwirfoddol er mwyn gwella canlyniadau i bobl a chymunedau ledled Cymru.  

Dywedodd Darren Hughes, Cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru: “Yn syml, mae angen y sector gwirfoddol a gwirfoddolwyr ar GIG Cymru. Nid yw'n 'braf ei gael', mae'n hanfodol, i'r GIG, gofal cymdeithasol a chymunedau ledled Cymru. Mae'r sector yn chwarae rhan hanfodol wrth atal unigolion rhag dod i mewn i'r gwasanaeth iechyd a gofal yn y lle cyntaf, ac yn helpu i gadw pobl yn iach ac yn annibynnol. Felly mae'n rhan hanfodol o'r agenda gwaith ataliol ac ymyrraeth gynnar, sydd yn aml mor anodd ei mesur o ran ei chyfraniad. Diolch i bob sefydliad a gwirfoddolwr sy'n rhoi o'u hamser i wneud Cymru yn lle gwell i fyw.”

Dywedodd Lindsay Cordery-Bruce, Prif Weithredwr CGGC: “Ni allwn danbrisio cyfraniad mawr iawn ein sefydliadau gwirfoddol a’n gwirfoddolwyr at ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru. Rydyn ni'n gwybod bod hwn yn gyfnod anodd ond mae sefydliadau gwirfoddol yn ein cymunedau yn gwneud pethau anhygoel i helpu pobl yng Nghymru. Rydym mor falch o'r rôl unigryw y mae'r sector gwirfoddol yn ei chwarae, ac yn cydweithio â'r sector cyhoeddus i greu Cymru iachach.”